Mathew 17 BCN

Gweddnewidiad Iesu

1 Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd, ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu.

2 A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni.

3 A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4 A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.”

5 Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno.”

6 A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt.

7 Daeth Iesu atynt a chyffwrdd â hwy gan ddweud, “Codwch, a pheidiwch ag ofni.”

8 Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu yn unig.

9 Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.”

10 Gofynnodd y disgyblion iddo, “Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?”

11 Atebodd yntau, “Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.

12 Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw.”

13 Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n sôn wrthynt.

Iacháu Bachgen â Chythraul ynddo

14 Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,

15 “Syr, tosturia wrth fy mab, oherwydd y mae'n dioddef o ffitiau ac yn dioddef yn enbyd, yn cwympo'n aml i'r tân ac yn aml i'r dŵr.

16 Deuthum ag ef at dy ddisgyblion di, ac ni allasant hwy ei iacháu.”

17 Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef yma ataf fi.”

18 Ceryddodd Iesu y cythraul, ac aeth allan ohono, ac fe iachawyd y bachgen o'r munud hwnnw.

19 Yna daeth y disgyblion at Iesu o'r neilltu a dweud, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?”

20 Meddai ef wrthynt, “Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw’, a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.

Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad

22 Pan oeddent gyda'i gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthynt, “Y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl,

23 ac fe'i lladdant ef, a'r trydydd dydd fe'i cyfodir.” Ac aethant yn drist iawn.

Talu Treth y Deml

24 Wedi iddynt ddod i Gapernaum, daeth y rhai oedd yn casglu treth y deml at Pedr a gofyn, “Onid yw eich athro yn talu treth y deml?”

25 “Ydyw,” meddai Pedr. Pan aeth i'r tŷ, achubodd Iesu'r blaen arno trwy ofyn, “Simon, beth yw dy farn di? Gan bwy y mae brenhinoedd y byd yn derbyn tollau a threthi? Ai gan eu dinasyddion eu hunain ynteu gan estroniaid?”

26 “Gan estroniaid,” meddai Pedr. Dywedodd Iesu wrtho, “Felly y mae'r dinasyddion yn rhydd o'r dreth.

27 Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y môr a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28