7 Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’
8 Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.
9 Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys,
10 na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd.
11 I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â'r ardal.
12 A phan fyddwch yn mynd i mewn i dŷ, cyfarchwch y tŷ.
13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ond os na fydd y tŷ yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.