1 Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy'r caeau ŷd ar y Saboth; yr oedd eisiau bwyd ar ei ddisgyblion, a dechreusant dynnu tywysennau a'u bwyta.
2 Pan welodd y Phariseaid hynny, meddent wrtho, “Edrych, y mae dy ddisgyblion yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth.”
3 Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
4 Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a sut y bwytasant y torthau cysegredig, nad oedd yn gyfreithlon iddo ef na'r rhai oedd gydag ef eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?