12 Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad. Am hynny y mae'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth.”
13 Yna dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn holliach fel y llall.
14 Ac fe aeth y Phariseaid allan a chynllwyn yn ei erbyn, sut i'w ladd.
15 Ond daeth Iesu i wybod hyn, ac aeth ymaith oddi yno. Dilynodd llawer ef, ac fe iachaodd bawb ohonynt,
16 a rhybuddiodd hwy i beidio â'i wneud yn hysbys,
17 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
18 “Dyma fy ngwas, yr un a ddewisais,fy anwylyd, yr ymhyfrydodd fy enaid ynddo.Rhoddaf fy Ysbryd arno,a bydd yn cyhoeddi barn i'r Cenhedloedd.