21 Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”
22 Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld.
23 A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?”
24 Ond pan glywodd y Phariseaid dywedasant, “Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid.”
25 Deallodd Iesu eu meddyliau a dywedodd wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, ac ni bydd yr un dref na thŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn sefyll.
26 Ac os yw Satan yn bwrw allan Satan, y mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y saif ei deyrnas?
27 Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.