43 “Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ac nid yw yn ei gael.
44 Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn.
45 Yna y mae'n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn dod i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf. Felly hefyd y bydd i'r genhedlaeth ddrwg hon.”
46 Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.
47 Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”
48 Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”
49 A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.