46 Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.
47 Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”
48 Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”
49 A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.
50 Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”