10 Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?”
11 Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd.
12 Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
13 Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall.
14 A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud:“ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim;er edrych ac edrych, ni welwch ddim.
15 Canys brasawyd calon y bobl yma,y mae eu clyw yn drwm,a'u llygaid wedi cau;rhag iddynt weld â'u llygaid,a chlywed â'u clustiau,a deall â'u calon, a throi'n ôl,i mi eu hiacháu.’
16 “Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed.