27 Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’
28 Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’
29 ‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy.
30 Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ”
31 A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes.
32 Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.”
33 Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”