34 Dywedodd Iesu'r holl bethau hyn ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd; heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt,
35 fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:“Agoraf fy ngenau ar ddamhegion,traethaf bethau sy'n guddiedig er seiliad y byd.”
36 Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes.”
37 Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn.
38 Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,
39 a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.
40 Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.