37 Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn.
38 Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,
39 a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.
40 Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.
41 Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith,
42 a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
43 Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.