4 Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
5 Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear.
6 Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
7 Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu.
8 A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
9 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.”
10 Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?”