48 Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.
49 Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn,
50 ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
51 “A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.”
52 “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”
53 Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno.
54 Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?