50 ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
51 “A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.”
52 “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”
53 Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno.
54 Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?
55 Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo?
56 Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?”