55 Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo?
56 Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?”
57 Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.”
58 Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.