10 Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?
11 Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
12 Yna y deallasant iddo lefaru nid am ochel rhag surdoes y torthau, ond rhag yr hyn a ddysgai'r Phariseaid a'r Sadwceaid.
13 Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?”
14 Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
15 “A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?”
16 Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.”