20 Yna gorchmynnodd i'w ddisgyblion beidio â dweud wrth neb mai ef oedd y Meseia.
21 O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.
22 A chymerodd Pedr ef a dechrau ei geryddu gan ddweud, “Na ato Duw, Arglwydd. Ni chaiff hyn ddigwydd i ti.”
23 Troes yntau, a dywedodd wrth Pedr, “Dos ymaith o'm golwg, Satan; maen tramgwydd ydwyt imi, oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”
24 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
25 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.
26 Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?