24 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.
25 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.
26 Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?
27 Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.
28 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”