5 Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara.
6 Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
7 Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Ni ddaethom â bara.”
8 Deallodd Iesu a dywedodd, “Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?
9 Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10 Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?
11 Sut na welwch nad ynglŷn â bara y dywedais wrthych? Gochelwch, meddaf, rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”