1 Pan orffennodd Iesu lefaru'r geiriau hyn, ymadawodd â Galilea a daeth i diriogaeth Jwdea y tu hwnt i'r Iorddonen.
2 Dilynodd tyrfaoedd mawr ef, ac iachaodd hwy yno.
3 Daeth Phariseaid ato i roi prawf arno gan ofyn, “A yw'n gyfreithlon i ŵr ysgaru ei wraig am unrhyw reswm a fyn?”
4 Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?”