10 Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.”
11 Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly.
12 Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.”
13 Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy,
14 ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”
15 Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.
16 Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, “Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”