19 anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ ”
20 Dywedodd y dyn ifanc wrtho, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?”
21 Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”
22 Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd.
24 Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
25 Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?”