24 Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
25 Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?”
26 Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, “Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.”
27 Yna atebodd Pedr ef, “Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?”
28 Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.
29 A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.
30 Ond bydd llawer o'r rhai blaenaf yn olaf, ac o'r rhai olaf yn flaenaf.