1 “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ a aeth allan gyda'r bore bach i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
2 Cytunodd â'r gweithwyr am dâl o un darn arian y dydd ac anfonodd hwy i'w winllan.
3 Aeth allan eilwaith tua naw o'r gloch y bore, a gwelodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnad.
4 Dywedodd wrthynt hwythau, ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan, ac fe dalaf i chwi beth bynnag fydd yn deg’;
5 ac aethant yno. Yna fe aeth allan eto tua chanol dydd, a thua thri o'r gloch y prynhawn, a gwneud fel o'r blaen.
6 Tua phump o'r gloch aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyll yno, ac meddai wrthynt, ‘Pam yr ydych yn sefyll yma drwy'r dydd yn segur?’
7 ‘Am na chyflogodd neb ni,’ oedd eu hateb. ‘Ewch chwi hefyd i'r winllan,’ meddai ef.