15 Onid yw'n gyfreithlon imi wneud fel rwy'n dewis â'm heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i'm haelioni?
16 Felly bydd y rhai olaf yn flaenaf a'r rhai blaenaf yn olaf.’ ”
17 Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu'r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt,
18 “Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth,
19 a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd i'w watwar a'i fflangellu a'i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe'i cyfodir.”
20 Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan ymgrymu a gofyn ffafr ganddo.
21 Meddai ef wrthi, “Beth a fynni?” Atebodd, “Gorchymyn fod i'm dau fab hyn gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy deyrnas.”