19 A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, “Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy.” Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
20 Pan welodd y disgyblion hyn, fe ryfeddasant a dweud, “Sut y crinodd y ffigysbren ar unwaith?”
21 Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd, heb amau dim, nid yn unig fe wnewch yr hyn a wnaed i'r ffigysbren, ond hyd yn oed os dywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Coder di a bwrier di i'r môr’, hynny a fydd.
22 A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch.”
23 Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?”
24 Atebodd Iesu hwy, “Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
25 Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?” Dechreusant ddadlau â'i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed wrthym, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’