27 Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
28 “Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, ‘Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.’
29 Atebodd yntau, ‘Na wnaf’; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd.
30 Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, ‘Fe af fi, syr’; ond nid aeth.
31 P'run o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?” “Y cyntaf,” meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32 Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.
33 “Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.