30 Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, ‘Fe af fi, syr’; ond nid aeth.
31 P'run o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?” “Y cyntaf,” meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32 Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.
33 “Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tŷ a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
34 A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.
35 Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.
36 Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.