34 A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.
35 Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.
36 Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd â hwy.
37 Yn y diwedd anfonodd atynt ei fab, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’
38 Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
39 A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.
40 Felly pan ddaw perchen y winllan, beth a wna i'r tenantiaid hynny?”