1 A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion.
2 “Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab.
3 Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod.
4 Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’