14 Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”
15 Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.
16 A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.
17 Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”
18 Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?
19 Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,
20 ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”