17 Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?”
18 Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?
19 Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo,
20 ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”
21 Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”
22 Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.
23 Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.