23 Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.
24 Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’
25 Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.
26 A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.
27 Yn olaf oll bu farw'r wraig.
28 Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig p'run o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig.”
29 Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.