31 Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,
32 ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.”
33 A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.
34 Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.
35 Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,
36 “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”
37 Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’