36 “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?”
37 Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’
38 Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.
39 Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’
40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”
41 Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,
42 “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho.