38 Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf.
39 Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’
40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”
41 Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,
42 “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho.
43 “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:
44 “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion dan dy draed” ’?