5 Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.
6 A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.
7 Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.
8 Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng.
9 Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’
10 Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
11 Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.