1 Yna llefarodd Iesu wrth y tyrfaoedd a'i ddisgyblion.
2 Dywedodd: “Y mae'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn eistedd yng nghadair Moses.
3 Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch â dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
4 Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud.