10 A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.
11 Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.
12 Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
13 “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.
15 “Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cwmpasu môr a thir i wneud un proselyt, ac wedi ei gael fe'i gwnewch yn ddwywaith cymaint o blentyn uffern ag yr ydych chwi.
16 “Gwae chwi, arweinwyr dall sy'n dweud, ‘Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r deml, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r aur sydd yn y deml, y mae rhwymedigaeth arno.’
17 Ffyliaid a deillion, p'run sydd fwyaf, yr aur, ynteu'r deml sy'n gwneud yr aur yn gysegredig?