14 Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.
15 “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd)
16 “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
17 Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;
18 a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.
19 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
20 A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,