16 “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.
17 Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;
18 a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.
19 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
20 A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
21 oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
22 Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.