19 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!
20 A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
21 oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
22 Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23 Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
24 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
25 Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.