20 A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,
21 oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith.
22 Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23 Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
24 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
25 Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.
26 Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu.