23 Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu.
24 Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.
25 Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw.
26 Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu.
27 Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
28 Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid.
29 “Yn union ar ôl gorthrymder y dyddiau hynny,“ ‘Tywyllir yr haul,ni rydd y lloer ei llewyrch,syrth y sêr o'r nef,ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.’