36 “Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig.
37 Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
38 Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch,
39 ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
40 Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall.
41 Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.
42 Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.