41 Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall.
42 Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd.
43 Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ.
44 Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.
45 “Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?
46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;
47 yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.