48 Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi’,
49 a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon,
50 yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr;
51 ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.