8 Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll.
9 Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
10 A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd.
11 Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer.
12 Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.
13 Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
14 Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.