15 a dweud, “Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?” Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian;
16 ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.
17 Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, “Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?”
18 Dywedodd yntau, “Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, ‘Y mae'r Athro'n dweud, “Y mae fy amser i'n agos; yn dy dŷ di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion.” ’ ”
19 A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynnodd Iesu iddynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
20 Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.
21 Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i.”