30 Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
31 Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Trawaf y bugail,a gwasgerir defaid y praidd.’
32 “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.”
33 Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.”
34 Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.”
35 “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.
36 Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.”